Y Band:

Band gwerin cyffrous ac afieithus gyda phump o aelodau ifanc a hynod o gerddorol.

Ffurfiwyd yn 2005 wedi i bedwar aelod gyfarfod tra ar gwrs cerddoriaeth draddodiadol gyda Trac yn Sweden ddwy flynedd ynghynt. Maent yn mynd i roi cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar dân oherwydd mae canu gwerin yn Cwl! Mae rhai o’r aelodau wedi cyfansoddi alawon eu hunain hefyd, ac mae’r pump yn Gymry Cymraeg. Buont yng Ngwyl Werin Ryngwladol Lorient ac yn y Sesiwn Fawr yn ystod haf 2008, lle’r aeth y gynulleidfa’n wyllt gan stampio’u traed mewn cymeradwyaeth eisiau mwy!

Aelodau’r band:

Patrick Rimes - ffidil, sachbib, pibgorn, chwibanogl, trombôn

Angharad Siân Jenkins - ffidil

Bethan Rhiannon - prif lais, acordion, stepio

Alaw Ebrill Jones - telynau

Llinos Eleri Jones - telyn, telyn deires

Sam Humphries - gitâr

Alex Moller - offer taro, drymiau
Mae Calan yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497
www.sainwales.com | gwefan © www.eurigroberts.com